Cynhaliodd ҹɫֱ²¥appbrosiect gwelliant a oedd yn archwilio'r arfer presennol o arsylwi addysgu gan gymheiriaid yng Nghymru. Mae’r prosiect yn cynnwys cyhoeddi adroddiad trosolwg sy’n ymdrin ag arfer yn y darparwyr a reoleiddir ac a ariennir yng Nghymru, a sut mae hyn yn cymharu ag arfer ledled y DU.
Er mwyn cynnal y prosiect, dosbarthodd ҹɫֱ²¥apparolwg i bob un o'r 11 darparydd (naw sefydliad AU a dau goleg AB) ac yn dilyn hynny cynhaliwyd cyfres o gyfweliadau gyda'r darparwyr hyn. Roedd y prosiect hefyd yn cynnwys ymchwil wrth ddesg yn rhoi sylw i arfer ar draws rhannau eraill o'r DU, gan gynnwys 25 sefydliad AU o wahanol strwythur, maint a math.
Mae'r prosiect hefyd wedi cynhyrchu rhestr wirio o gwestiynau allweddol i'w hystyried wrth weithredu cynllun arsylwi addysgu gan gymheiriaid.
Weminar
Yn ogystal â’r adroddiad, cynhaliwyd gweminar ddydd Mawrth 27ain Mehefin i rannu canfyddiadau’r prosiect a rhannu arferion.
Roedd y weminar yn cynnwys y cyflwyniadau canlynol: