ҹɫֱapp

Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Clod gan Ewrop i ҹɫֱappa system sicrhau ansawdd addysg uwch y DU

Dyddiad: Gorffennaf 16 - 2018

Mae'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA) yn gwneud “cyfraniadau gwerthfawr at ddiogelu buddiannau'r myfyrwyr ac at hybu ansawdd addysg uwch drwy'r byd i gyd”.

Dyma farn panel Ewropeaidd mewn adolygiad annibynnol o QAA, sef corff annibynnol y DU ar gyfer sicrhau ansawdd addysg uwch. Cyhoeddwyd heddiw gan Gymdeithas Sicrhau Ansawdd mewn Addysg Uwch Ewrop (ENQA).

Daeth yr adolygiad i'r casgliad bod ҹɫֱappyn cydymffurfio'n sylweddol neu'n gyfan gwbl â'r gofynion ymhob un o'r meysydd. Dim ond un asiantaeth arall yn Ewrop sydd wedi cyrraedd yr un lefel o gydymffurfiad. Canfu'r panel bod ҹɫֱapp“yn un o'r asiantaethau sicrhau ansawdd blaenllaw yn y byd”.

Mae ҹɫֱappyn un o aelodau sylfaenol ENQA, sef y corff ymbarél ar gyfer asiantaethau sicrhau ansawdd yn Ardal Addysg Uwch Ewrop. Mae adolygiad i wirio cydymffurfiad yn erbyn y (ESG) o leiaf bob pum mlynedd yn un o amodau'r aelodaeth. Mae canlyniad cadarnhaol yr adolygiad hefyd yn caniatáu i ҹɫֱappwneud cais i ailgadarnhau ei restriad ar y Gofrestr Ewropeaidd ar gyfer Sicrhau Ansawdd (EQAR), ac i gynnal adolygiadau ansawdd ledled Ewrop a thu hwnt.

Derbyniodd QAA, yn ei gwaith ar ran sector addysg uwch y DU, nifer arwyddocaol o ganmoliaethau. Roedd y sylwadau'n cynnwys y rhain:

  • “Mae'r ffordd y mae myfyrwyr yn cyfrannu at brosesau adolygu'n ganmoladwy”.
  • “Canmolir ҹɫֱappam ei system lywodraethu gadarn a'i system ddatblygedig i sicrhau ansawdd yn fewnol sy'n cael eu gweithredu'n drwyadl”.
  • “Mae gwaith dadansoddol ҹɫֱappa'r cyflwyniadau gan sefydliadau i'r asiantaeth o safon uchel ac maent yn werthfawr i'r sector addysg uwch”.
  • “Canmolir ҹɫֱappam gynnwys ystod eang o randdeiliaid … yn y gwaith o lywodraethu'r asiantaeth, ei gwaith o ddatblygu polisïau a gweithdrefnau sicrhau ansawdd, a'i gwaith gwella”.

Nododd y panel hefyd bod darpariaeth addysg drawswladol y DU yn dod yn gynyddol bwysig. Ar hyn o bryd, mae dros 700,000* o fyfyrwyr yn astudio dramor ar gyfer cymhwyster addysg uwch y DU. Er bod y panel wedi cyfeirio at waith estynedig ҹɫֱappmewn asesu ansawdd y math yma o ddarpariaeth, roedd yn argymell yn benodol y dylai ҹɫֱappymateb i'r galw cynyddol hwn a “dwysáu ei gweithgareddau mewn perthynas ag adolygiadau addysg drawswladol dramor a … chryfhau ei goruchwyliaeth o drefniadau darpariaeth gydweithredol”. Mae ҹɫֱappwrthi'n barod yn trafod gyda phartneriaid yn y sector ddulliau o adolygu'r ddarpariaeth addysg drawswladol yn y dyfodol.

Wrth roi ei sylwadau am yr hyn y mae'r adolygiad yma'n ei olygu i sector addysg uwch y DU, meddai Douglas Blackstock, Prif Weithredwr QAA:

“Mae hwn yn ganlyniad gwych, nid yn unig i QAA, ond i bob prifysgol a phob coleg sy'n cynnig addysg uwch ledled y DU. Rydym wedi dangos bod ein dulliau o sicrhau ansawdd a safonau academaidd yn cyflawni disgwyliadau trwyadl Ewrop.

Mae ENQA wedi cydnabod ein hymrwymiad cadarn i wella ansawdd, a'r pwyslais a rown ninnau, a sector addysg uwch y DU, ar wneud yr hyn y gallwn i wella profiadau addysgol. Gallwn sicrhau myfyrwyr ledled y byd – a llywodraethau hefyd i ddweud y gwir – bod ein system addysg uwch o'r radd flaenaf a'i bod werth buddsoddi ynddi.


Mae ffigurau gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn dweud wrthym bod oddeutu 707,915 o fyfyrwyr wedi eu cofrestru ar raglenni addysg uwch drawswladol y DU yn ystod 2016-17. Roedd cofrestriadau ym Mhrifysgol Oxford Brookes yn cyfrif am 43% o'r cyfanswm yma, gyda'r mwyafrif o'r myfyrwyr gradd gyntaf hyn wedi eu cofrestru gyda phartner tramor ar raglenni Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig.