ҹɫֱ²¥app

Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Llawlyfr newydd yn archwilio EDI yn Ysgolion Busnes Cymru

Dyddiad: Medi 18 - 2024

Mae cydweithwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi cyhoeddi sy’n archwilio'r heriau o ran Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant (EDI) sy'n wynebu Ysgolion Busnes Cymru a'r arferion y maent wedi'u datblygu er mwyn mynd i'r afael â hwy.

Mae’r llawlyfr newydd yn gynnyrch Prosiect Gwelliant Cydweithredol ҹɫֱ²¥appCymru a ariennir gan CCAUC, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â thimau o Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Wrecsam, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Roedd y prosiect yn cynnwys myfyrwyr ac aelodau staff mewn cyfres o weithdai a nododd gasgliad o themâu allweddol, ac yna datblygu fframwaith ar gyfer gwreiddio blaenoriaethau EDI mewn amgylcheddau addysg uwch.

Mae'r llawlyfr yn olrhain datblygiad ystod o fentrau cydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant trwy gyfres o astudiaethau achos byr. Mae'r rhain yn cynnwys trafodaethau am y rhwydwaith LHDTC+ yn Abertawe, gwaith ar lesiant ac ymdrechion cydraddoldeb hiliol yng Nghaerdydd, hyder anabledd a chefnogaeth i fyfyrwyr rhyngwladol ym Mangor, a chamau gweithredu i gefnogi myfyrwyr a staff Moslemaidd ym Mhrifysgol De Cymru.

Mae’n dod i’r casgliad bod ymdrechion i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant yn aml yn cynnwys teithiau ag iddynt ambell gam gwag, ac, er y bydd amgylchiadau lleol yn galw am atebion lleol, y gellir canfod gwerth gwirioneddol mewn rhannu dysg a phrofiadau sy’n deillio o’r fath fentrau amrywiol.

'Mae hwn yn adnodd hygyrch, defnyddiol a gwirioneddol ysbrydoledig,' meddai Holly Thomas, Arbenigwr Ansawdd a Gwelliant yn QAA. 'Rydym yn mawr obeithio y bydd cydweithwyr ar draws y sector yn cael eu calonogi a'u cyffroi gan yr enghreifftiau hynod ddiddorol y mae'n eu cyflwyno.'

Ychwanegodd Dr Richard Baylis o Abertawe: 'Roedd gweithio ar y cyd yn rhoi cyfle i sefydliadau partner archwilio eu harferion eu hunain wrth fyfyrio ar themâu sy'n dod i'r amlwg. Roedd cynnwys rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys myfyrwyr a staff, yn hollbwysig i'r prosiect, er mwyn sicrhau bod lleisiau pawb yn cael eu clywed.'