ҹɫֱ²¥app

Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

ҹɫֱ²¥appCymru yn cyhoeddi adroddiad blynyddol diweddaraf ar ymwneud â'r Gymraeg

Dyddiad: Ionawr 29 - 2024

Mae ҹɫֱ²¥appCymru yn falch o gyhoeddi ein hadroddiad blynyddol ar ymwneud â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn ystod y flwyddyn academaidd 2022-23.

Mae'r adroddiad yn dangos sut mae ҹɫֱ²¥appyn cyflawni ein hymrwymiadau i Safonau'r Gymraeg (Rheoliadau Rhif 2) 2016 o ran darparu gwasanaethau, gweithrediadau, llunio polisïau a chadw cofnodion. Mae hefyd yn dangos ein hymrwymiad ehangach i’r Gymraeg a’i rôl mewn addysg uwch yng Nghymru. 

Mae ymrwymiad eang ҹɫֱ²¥appi'r Gymraeg yn cynnwys hyfforddiant ar Safonau'r Gymraeg ac ymwybyddiaeth o’r iaith ar gyfer staff, yn ogystal â sefydlu Gweithgor y Gymraeg traws-sefydliadol.

Yn 2022-23, diweddarodd ҹɫֱ²¥appy dull Adolygu Gwella Ansawdd a ariennir trwy drefniadau grant gyda CCAUC. Manteisiodd ҹɫֱ²¥appar y cyfle hwnnw i gryfhau'r ymrwymiad i'r Gymraeg yn y broses adolygu a'r llawlyfr, er enghraifft trwy gynnwys gwybodaeth yn y llawlyfr ar sut i godi cwynion am gydymffurfiaeth ҹɫֱ²¥appâ'r Gymraeg, a thrwy sicrhau bod adroddiadau drafft ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Yn 2022, cynhaliodd ҹɫֱ²¥apphefyd sesiwn i’r holl staff ar godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg mewn addysg uwch ac addysg bellach; cyflwynwyd rhai o ganlyniadau’r cyfrifiad lefel uchel a gyhoeddwyd yn ddiweddar a rhannwyd gwybodaeth am Strategaeth Cymraeg 2050.

Nododd yr adroddiad hefyd, fel rhan o’r Prosiect Gwelliant Arsylwi Addysgu gan Gymheiriaid a ariennir gan CCAUC, y rhoddwyd ystyriaeth i sut mae argaeledd staff sy’n siarad Cymraeg mewn darparwyr addysg uwch yn effeithio ar weinyddu a chyflwyno sesiynau arsylwi cymheiriaid trwy gyfrwng y Gymraeg.

Wrth wneud sylwadau ar gyhoeddi’r adroddiad, meddai Kathryn O’Loan, Cyfarwyddwr ҹɫֱ²¥appdros yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon:

“Rydym yn falch o’n cynnydd parhaus wrth sicrhau bod ein gweithgareddau mor hygyrch â phosibl i siaradwyr Cymraeg y sector, gan gefnogi strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. Rydym wedi ymrwymo i gryfhau ein harferion i gefnogi cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chydweithwyr ar draws y sector yng Nghymru yn 2024 i wneud hyn.

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ar ein gwefan.

Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2022 -23 ar ymgysylltiad ҹɫֱ²¥appâ Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ion 2024