ҹɫֱ²¥app

Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

ҹɫֱ²¥appCymru yn lansio galwad am ddatganiadau o ddiddordeb mewn Prosiect Gwelliant Cydweithredol newydd

Dyddiad: Rhagfyr 1 - 2023

Mae ҹɫֱ²¥appCymru wedi lansio galwad am ddatganiadau o ddiddordeb ar gyfer Prosiect Gwelliant Cydweithredol (PGC) newydd a ariennir gan CCAUC trwy drefniadau grant gyda QAA.  

Mae PGC yn brosiectau ble mae grwpiau o ddarparwyr yn cytuno i gydweithio ar faterion o ddiddordeb i bob un ohonynt, sydd â'r potensial i greu gwerth i’r sector cyfan unwaith y byddant wedi'u cwblhau. Mae Prosiectau Gwelliant Cydweithredol wedi'u hanelu at hyrwyddo cydweithredu a datblygiad o fewn y sector. Bydd grwpiau prosiect yn adrodd ar gynnydd i ҹɫֱ²¥appCymru, a disgwylir iddynt rannu’r hyn maent wedi’i ddysgu o'u gweithgaredd. Mae grwpiau prosiect yn derbyn cefnogaeth gan ҹɫֱ²¥appCymru, trwy gyllid grant CCAUC. 

Mae'r alwad hon ar gyfer un prosiect yn unig. Bydd y cynigion yn cael eu hadolygu gan ddilyn y meini prawf ar gyfer dethol a amlinellir yn y ddogfennaeth.  &²Ô²ú²õ±è;

Dywedodd Kathryn O'Loan, Cyfarwyddwr ҹɫֱ²¥appCymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon: 

'Mae Prosiectau Gwelliant Cydweithredol yn gyfle gwych i gydweithwyr rannu arbenigedd a chydweithio mewn meysydd sy’n mynd i fod o fudd, nid yn unig i'w sefydliad eu hunain, ond y sector cyfan. 

Mae’r alwad ddiweddaraf ar gyfer PGC y drydedd y mae ҹɫֱ²¥appwedi'i gwneud yng Nghymru, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda sefydliadau i adeiladu ar lwyddiant rowndiau blaenorol. Rydym wrth ein bodd bod y gwaith hwn yn bosibl trwy ein trefniadau grant gyda CCAUC.' 

Gallwch archwilio allbynnau o brosiectau cydweithredol eraill ar wefan QAA: 

Oes gennych chi ddiddordeb mewn prosiect? Lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth a’r ffurflen mynegi diddordeb isod a’u dychwelyd erbyn 5pm ar 24 Ionawr 2024. Croesewir ymatebion yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd yn ofynnol i bob cynnig llwyddiannus ar gyfer prosiectau ddechrau ac ymrwymo gwariant cyn diwedd Gorffennaf 2024.